Amdanom Ni
Ffurfiwyd Hendre Cyf ym mis Tachwedd 2002 gan greu strwythur Gr?p newydd i gynnig gwasanaethau corfforaethol i'w aelodau. Trwy gynnig gwasanaethau canolog a chymorth strategol i sefydliadau oddi mewn i'r Gr?p a thu allan, rydym yn eu galluogi i ganolbwyntio ar eu prif wasanaethau i gwsmeriaid. Mae ein gweledigaeth yn glir. Trwy ddarparu gwasanaethau o'r radd flaenaf, byddwn yn:
- Galluogi pob cleient i dyfu.
- Ymestyn yr amrywiaeth o wasanaethau a ddarparwn ar hyn o bryd.
- Ymestyn ein sylfaen gleientiaid ein hunain oddi mewn a thu allan i'r Gr?p.
- Parhau i arfer dylanwad, gan sicrhau bod ein cleientiaid yn gallu cwrdd â heriau corfforaethol, rheolaethol, economaidd a thechnolegol y dyfodol.





